David Miller (PA)
Mae’r heddlu yng Ngwlad Thai wedi gwrthod cadarnhau adroddiadau eu bod nhw’n agos at arestio unigolyn ar amheuaeth o lofruddio dau o Brydeinwyr ar ynys Koh Tao.

Daeth yr heddlu o hyd i gyrff David Miller, 24, a Hannah Witheridge, 23, ar yr ynys ar Fedi 15 ac maen nhw’n chwilio am ddyn maen nhw’n credu sydd wedi teithio i’r brifddinas Bangkok.

Mae’r awdurdodau’n dweud bod lle i gredu bod tri o bobol yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Y cefndir

Daethpwyd o hyd i’r ddau gydag anafiadau difrifol i’w pennau ar draeth ar yr ynys ac, cyhydig yn ddiweddarach, fe ddaeth yr heddlu o hyd i offer garddio gwaedlyd gerllaw.

Dangosodd profion post-mortem fod Hannah Witheridge wedi marw o anafiadau i’w phen, tra bod David Miller wedi marw o ganlyniad i anafiadau a boddi.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i adroddiadau bod y ddau wedi ffraeo gyda dyn lleol mewn bar cyn iddyn nhw gael eu lladd, ac mae’n bosib bod rhesymau rhywiol am ladd y ddau.

DNA

Roedd adroddiadau’r wythnos diwethaf fod yr heddlu wedi dod o hyd i olion DNA dau ddyn o dras Asiaidd ar gorff Hannah Witheridge.

Fe gafodd criw o ddynion o wlad Burma eu holi a’u rhyddhau heb gyhuddiad ac mae’r heddlu bellach wedi troi eu sylw at grŵp o Brydeinwyr a gafodd eu gweld ar y traeth adeg marwolaeth y ddau.