Nicola Sturgeon
Mae disgwyl i Ddirprwy Brif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon gyhoeddi heddiw ei bod hi’n bwriadu ymgeisio i olynu Alex Salmond.
Mae’r enwebiadau’n agor heddiw a’r disgwyl yw y bydd hi’n cael ei dewis yn ddiwrthwynebiad, neu’n ennill yr etholiad yn hawdd.
Ond fe fydd hi’n wynebu cyfnod gyda mwyafrif tenau iawn yn Senedd yr Alban ar ôl i un o’i haelodau seneddol ymddiswyddo o’r blaid.
Y cefndir
Fe gyhoeddodd Salmond ei fod yn ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog ac arweinydd ei blaid yn dilyn y bleidlais ‘Na’ yn refferendwm annibyniaeth y wlad yr wythnos diwethaf.
Nicola Sturgeon oedd wrth ochr Alex Salmond yn arwain yr ymgyrch Ie ac mae wedi body n Ddirprwy Brif Weinidog ers i’r SNP ddod i rym yn Holyrood yn 2007.
Os bydd hi’n cael ei dewis, Nicolaa Sturgeon, sy’n 44 oed, fydd y ddynes gyntaf i arwain y blaid yn ei hanes a Phrif Weinidog benywaidd cyntaf Yr Alban hefyd.
Ymddiswyddo
Ddoe y cyhoeddodd un o aelodau seneddol yr SNP ei fod yn ymddiswyddo gan dorri mwyafrif gweithredol y blaid i un.
Yn ôl John Wilson, mae’n anhapus gyda rhai pethau mewnol a hefyd tros benderfyniad yr SNP i gefnogi NATO – y trydydd ASA i ymddiswyddo oherwydd hynny.
Ond mae wedi mynnu ei fod yn parhau o blaid annibyniaeth ac y bydd yn penderfynu fesul pleidlais pa un ai i gefnogi’r SNP ai peidio.