Tommo
Mae Golygydd Radio Cymru, Betsan Powys, wedi amddiffyn polisi’r orsaf o ddarlledu cerddoriaeth Saesneg ac i beidio â mynnu bod rhaid i bob cyflwynydd siarad Cymraeg graenus.

Mae hi’n ymateb i gwynion gan y mudiad Dyfodol i’r Iaith ac enwogion fel Dafydd Hywel, Dewi Pws a Cleif Harpwood wedi i’r orsaf benderfynu chwarae rhagor o ganeuon Saesneg yn y prynhawn.

Ym mis Ebrill, fe ddywedodd y canwr Dewi Pws wrth golwg360 na fyddai’n ymddangos eto ar Radio Cymru oherwydd y defnydd o recordiau Saesneg, gan ddweud bod y sefyllfa bresennol yn “torri ei galon”.

Ond mewn cyfweliad ar gyfer y gwasanaeth digidol, Pobl Caerdydd, mae Betsan Powys yn dweud mai ymdrech i ddenu mwy o bobol ifanc yw’r caneuon Saesneg a bod hynny, yn y pen draw, am arwain at fwy o siarad a chanu yn Gymraeg.

Pobol ifanc

“Mae’n benderfyniad mawr i roi rywfaint o ganeuon Saesneg yn y prynhawn ar Radio Cymru,” meddai’r Golygydd Betsan Powys.

“Mae hynny’n digwydd er mwyn ceisio denu pobol, yn cynnwys pobol ifanc a phlant sydd, efallai, ddim yn gyfarwydd â bandiau Cymraeg. Rydym yn chwarae cerddoriaeth Saesneg i bwrpas penodol, felly, sef denu mwy o bobol i’r orsaf a, thrwy hynny, i glywed mwy o siarad a chanu yn Gymraeg.”

Rhaglen Tommo

Ychwanegodd bod rhaglen Tommo, sydd wedi cael ei beirniadu am ddefnyddio bratiaith, yn cynnig rhywbeth i wrandawyr sydd ddim mor rhugl eu Cymraeg:

“Dyw Radio Cymru ddim yn perthyn i unrhyw garfan benodol. I’r rheiny sydd yn poeni am safon eu Cymraeg, mae Radio Cymru yn cynnig cartref croesawgar.”

Roedd  hi’n cydnabod nad yw Cymraeg Tommo “yn berffaith” ond roedd pobol yn ei hoffi, meddai, am ei fod yn “siarad eu hiaith nhw”.