Beirdd Her100Cerdd 2014, Casia Wiliam, Gwennan Evans, Gruffudd Owen, a Llŷr Gwyn Lewis
Bydd pedwar bardd yn ceisio sgwennu 100 o gerddi mewn 24 awr i nodi Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth eto eleni.

Am hanner nos, Hydref 2, bydd y beirdd yn cychwyn ar eu hymgais i gyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol rhyngddynt, a’u postio ar flog www.her100cerdd.co.uk

Dyma’r trydydd tro i’r Her 100 Cerdd gael ei chynnal, gyda’r ddau dîm blaenorol o feirdd yn llwyddo i gyflawni’r her eiliadau yn unig cyn hanner nos.

Aelodau o Dîm Talwrn y Ffoaduriaid sydd wedi derbyn yr Her eleni, sef Casia Wiliam, Gwennan Evans, Gruffudd Owen, a Llŷr Gwyn Lewis. Mae’r pedwar bellach yn byw yng Nghaerdydd, ond fel awgryma enw eu tîm Talwrn, maent oll wedi ffoi i’r Brifddinas o wahanol ardaloedd o Gymru.

Merch fferm o Nefyn ym Mhen Llŷn ydi Casia Wiliam. Cyhoeddwyd Ceffyl Rhyfel, addasiad Casia o War Horse gan Michael Morpurgo, gan Wasg Carreg Gwalch yn 2012, a bydd Y Llew Pili Pala, ei haddasiad o Butterfly Lion gan yr un awdur yn y siopau yn fuan.

Mae Gwennan Evans yn dod o Ddyffryn Cothi. Mae’n astudio am ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Cyhoeddodd Y Lolfa ei nofel gyntaf, Bore Da yn 2012.

Daw Llŷr Gwyn Lewis o Gaernarfon, ac wrth ei waith bob dydd mae’n ddarlithydd yn y Gymraeg. Enillodd gadair yr Urdd yn Llanerchaeron 2010 ac Abertawe 2011. Eleni, cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Storm ar Wyneb yr Haul, gan Gyhoeddiadau Barddas a Rhyw Flodau Rhyfel, cyfrol ryddiaith, gan Y Lolfa.

Daw Gruffudd Owen yn wreiddiol o Bwllheli. Y llynedd, enillodd Gruffudd Stôl Stomp yr Eisteddfod Genedlaethol, ac eleni yn Llanelli enillodd Stôl y Stomp Fach a dod i’r brig yn Stomp Sydyn Barddas.

Yn ôl Gwennan Evans, “Mae’r pedwar ohonom yn tueddu i ragori ar dasgau gwahanol yn y Talwrn; Llŷr ar y cywydd, Casia ar y delyneg, Gruffudd ar yr englyn a finnau ar y gân. Bydd hi’n ddiddorol gweld a fydd y cydbwysedd yn newid yn yr Her 100 Cerdd.”