David Cameron
Bydd David Cameron yn cwrdd ag Arlywydd Iran i’w annog i ymuno â’r ymdrech ryngwladol i fynd i’r afael a’r bygythiad gan y grŵp eithafol IS.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn gofyn i Iran roi’r gorau i gefnogi cyfundrefn yr Arlywydd Assad yn Syria.
Bydd David Cameron yn cwrdd â Hassan Rouhani yn uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd. Dyma fydd y tro cyntaf i Brif Weinidog o Brydain gynnal trafodaethau wyneb yn wyneb gydag Arlywydd y wlad ers y chwyldro Islamaidd yn 1979.
Mae’n gam pwysig yn ymdrech David Cameron i sicrhau cefnogaeth gwledydd rhanbarthol y Dwyrain Canol er mwyn brwydro yn erbyn IS.
Mae IS erbyn hyn yn rheoli tiriogaeth yn Irac a Syria ac wedi cynnal cyfres o droseddau erchyll yn erbyn pobl leol a thramorwyr.
Fe ddechreuodd America a phump o’r gwledydd Arabaidd gynnal ymosodiadau awyr ar dargedau IS yn Syria dros nos.