Dafydd Wigley
Yr Arglwydd Dafydd Wigley fydd yn arwain ymgyrch Plaid Cymru ar gyfer etholiadau San Steffan ym mis Mai 2015.
Fe ddywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru ei fod wedi cymryd yr awenau er mwyn sicrhau bod gan y blaid y “tîm cryfaf posibl” ar ôl yr etholiad yn ogystal â sicrhau nad yw “Cymru yn cael ei gwthio i’r cyrion” yn dilyn refferendwm yr Alban.
Etholiadau’r Cynulliad cyntaf yn 1999 oedd y tro diwethaf i Dafydd Wigley arwain ymgyrch etholiadol gan Blaid Cymru. Yr adeg honno, fe wnaeth y blaid ennill 30% o’r bleidlais a sefydlu ei hun fel dewis arall o Lywodraeth yng Nghymru.
Mae’r penodiad yn dilyn gwahoddiad gan Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru ac fe fydd Dafydd Wigley yn cyd-weithio gydag Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood; Arweinydd San Steffan, Elfyn Llwyd AS, a’r Prif Weithredwr, Rhuanedd Richards.
‘Grym’
“Yn dilyn y refferendwm diweddar yn yr Alban, mae’r un mor hanfodol bod Plaid Cymru yn dod yn gymaint o rym yng ngwleidyddiaeth Cymru ag y mae’r SNP yn yr Alban,” meddai Dafydd Wigley.
“Mae’n arbennig o bwysig, o ran y cyd-destun yn San Steffan, fod Plaid Cymru yn sicrhau’r tîm cryfaf posibl yn dilyn etholiad mis Mai nesaf.
“Mae’r SNP yn debygol o weld cynnydd aruthrol yn nifer eu Haelodau Seneddol, a fydd yn rhoi iddynt, yn gwbl briodol, y gallu i fynnu bod Llywodraeth nesaf y DU yn cyflwyno “Devo-max” ar gyfer yr Alban os, fel y rhagwelwyd gan nifer, yw’r llywodraeth bresennol yn methu â chyflawni hynny yn ystod y tymor seneddol hwn.
“Bydd Cymru yn cael ei gwthio i’r cyrion os yw cyfrifoldeb dros ein lles yn aros yn nwylo gwleidyddion Llafur neu Dorïaidd. Ni allwn fforddio cael ein gadael ar ôl.
“Mae’n hanfodol bwysig bod y Blaid yn ennill mwy o seddi a phleidleisiau, er mwyn sicrhau ein bod ynghanol unrhyw drafodaethau am ddyfodol llywodraethu’r ynysoedd hyn.
“Byddaf yn gweithio’n agos gyda’n hymgeiswyr ledled Cymru a gyda’n trefnwyr ymgyrchu lleol, gan ateb i Arweinydd y Blaid a’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn yr etholiad allweddol hwn. Yr wyf yn gobeithio dod â’r un brwdfrydedd at y gwaith ag y gwnes yn 1999 ac rwy’n hyderus y gallaf helpu ein tîm i sicrhau canlyniadau a fydd yr un mor effeithiol.”