Rhun ap Iorwerth
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi lansio ymchwiliad yn seiliedig ar gŵyn gan Blaid Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod datgelu gwybodaeth ynglŷn â nifer y swyddi sydd wedi eu creu a’u cadw ym mhob un o’u parthau menter.
Mae Plaid Cymru yn honni i’r Llywodraeth wrthod a darparu gwybodaeth am y cynllun – sy’n defnyddio arian cyhoeddus – mewn cais Rhyddid Gwybodaeth, er bod Llywodraeth Prydain yn datgelu’r wybodaeth ar gyfer eu saith parth menter nhw.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi a Menter: “Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn bod yn agored pan fo hynny’n addas iddyn nhw, ond pan holir hwy am rywbeth all fod yn anodd, maen nhw’n cau’n glep ac yn gwrthod datgelu gwybodaeth, gan rwystro craffu.”
Cafodd y parthau menter eu sefydlu yn 2011 er mwyn cefnogi seilwaith i fusnesau a swyddi. Mae’r saith parth yn cynnwys Ynys Môn, Canol Caerdydd, Glannau Dyfrdwy, Glyn Ebwy, Eryri, Dyfrffordd Aberdaugleddau, a Sain Tathan – Maes Awyr Caerdydd.
Arian cyhoeddus
Ychwanegodd yr AC bod gan bobol hawl i wybod mwy am lwyddiant cynllun sy’n gwario arian cyhoeddus: “Efallai y bydd gan Lywodraeth Cymru broblemau ynghylch gwahanol gyflymder datblygu mewn parthau menter – mae hyn yn siŵr o ddigwydd. Ond y cyfan mae’n rhaid iddyn nhw wneud yw gofalu bod y wybodaeth a ddarperir yn manylu ar y gwahaniaethau rhwng parthau.
“Ymysg y meini prawf allweddol wrth farnu a fydd parthau menter yn llwyddiant neu beidio, fel y gobeithiwn y byddant, yw creu swyddi a buddsoddi.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru ail-feddwl am eu gwrthwynebiad i ryddhau’r wybodaeth hon. Dylen nhw wneud hynny cyn gynted ag sy’n bosib.”
‘Niwl o ddirgelwch’
Cafodd Plaid Cymru wybod fod Llywodraeth Cymru wedi darparu £12,784.747 o gyllid, gyda £7,314,000 o hyn yn grantiau ariannol busnes.
Fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Jocelyn Davies AC yn dilyn cyhoeddi eu hadroddiad ar barthau menter: “Mae niwl o ddirgelwch o hyd o gwmpas y Parthau Menter ers i’r Prif Weinidog gyhoeddi eu sefydlu dros ddwy flynedd yn ôl.
“Cafodd y pwyllgor hi’n anodd iawn i gael gwybodaeth gadarn am eu hamcanion, eu cyllid neu sut y caiff eu perfformiad ei fesur. Yn ein barn ni, os ydym am graffu go-iawn ar eu diben a’u perfformiad, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy agored o lawer am y parthau menter hyn.”
Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn ymwybodol o’r ymchwiliad hwn a bydd ein swyddogion yn ymateb i ymholiadau’r Comisiynydd Gwybodaeth.”