Mae disgwyl i Ed Miliband roi addewid y bydd yn rhoi mwy o gyllid i atgyfnerthu’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) heddiw wrth iddo ddatgelu cynllun 10 mlynedd i ailadeiladu Prydain.

Mae ‘na ddyfalu eang y bydd arweinydd y Blaid Lafur yn defnyddio ei araith yn y gynhadledd olaf cyn yr etholiad cyffredinol i ddweud y byddai’n ailgyfeirio arian i’r GIG – ac o bosib i ofal cymdeithasol – petai’n cael ei ethol yn Brif Weinidog.

Mae cryn ddyfalu y gallai dros £1 biliwn gael ei godi gan y “dreth ar blastai”, sef cartrefi sydd werth dros £2 filiwn, sydd eisoes yn un o addewidion y Blaid Lafur. Gallai’r arian hwnnw gael ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Ond bydd yn pwysleisio ymrwymiad y blaid i ddisgyblaeth ariannol, gan fynnu y gall DU “o’r radd flaenaf” gael ei hadeiladu heb “wariant mawr”.

Mae dyblu nifer y bobl sy’n prynu eu cartrefi cyntaf i 400,000 bob blwyddyn ymhlith chwech “nod” fydd Ed Miliband yn eu hamlinellu i helpu pobl ifanc.

Mae rhoi hwb i brentisiaethau, haneru nifer y gweithwyr sydd ar gyflogau isel, a chreu swyddi newydd ym maes technoleg “gwyrdd” hefyd yn rhan o’r cynlluniau.

‘Penderfyniadau anodd’

Dywedodd Ed Balls ddoe y byddai’r Blaid Lafur yn parhau i ddal y pwrs yn dynn petai nhw’n dod i rym y flwyddyn nesaf a rhybuddiodd y byddai rhagor o “benderfyniadau anodd” i’w gwneud fel cyfyngu ar fudd-daliadau plant.

Er bod y Blaid Lafur ar y blaen yn yr arolygon barn diweddaraf, mae’r cyhoedd yn dal i ddweud fod ganddyn nhw fwy o ffydd yn David Cameron a George Osborne wrth edrych ar ôl yr economi.

Ond gyda llai nag wyth mis nes bod y DU yn dewis llywodraeth newydd, bydd Ed Miliband heddiw’n apelio ar bobl i “godi eu golygon” y tu hwnt i’r blynyddoedd pellach sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r diffyg ariannol – ac edrych ymlaen at gyfnod pan fydd Llafur yn anelu at ddileu’r ddyled, erbyn 2020.