Barack Obama
Mae’r Unol Daleithiau a phump o’r gwledydd Arabaidd wedi cynnal ymosodiadau o’r awyr ar dargedau’r grŵp eithafol Islamic State (IS) yn Syria am y tro cyntaf.

Cafodd awyrennau milwrol eu defnyddio a thaflegrau gafodd eu tanio o longau yn yr ardal.

Dywedodd Damascus bod Washington wedi rhoi gwybod i lysgennad y Cenhedloedd Unedig yn Syria cyn i’r ymosodiadau ddechrau.

Roedd yr Arlywydd Barack Obama wedi rhoi sêl bendith i ehangu’r ymgyrch yn erbyn IS bythefnos yn ôl mewn ymdrech i frwydro yn erbyn yr eithafwyr sydd wedi cael hafan yn Syria ers i’r rhyfel cartref ddechrau yno dair blynedd yn ôl.

Yn ol swyddogion yn yr Unol Daleithiau fe ddechreuodd yr ymosodiadau am 1.30yb a’u cynnal gan America, Bahrain, Qatar, Saudi Arabia, Gwlad yr Iorddonen a’r Emiradau Arabaidd Unedig.

Mae America wedi bod yn cynnal ymosodiadau o’r awyr ar dargedau IS yn Irac ers mis Awst ond dyma’r tro cyntaf i ymosodiadau gael eu cynnal yn Syria. Fe fydd yr Unol Daleithiau yn rhoi £307 miliwn er mwyn rhoi hyfforddiant i wrthryfelwyr Syria.

Yn y cyfamser mae llefarydd y grŵp eithafol, Abu Mohammed al-Adnani, wedi dweud eu bod yn barod i frwydro yn erbyn y gwledydd sydd wedi cynnal ymosodiadau yn eu herbyn.

Nid oedd Prydain yn rhan o’r ymosodiadau ond roedd David Cameron wedi cael gwybod eu bod yn cael eu cynnal.