Lesley Griffiths
Fe fydd y Gweinidog Cymunedol a Thlodi, Lesley Griffiths, yn siarad am ei bwriad i sicrhau bod mwy o ferched yn cael eu cyflogi mewn swyddi cyhoeddus a rhai sy’n ymwneud a phenderfyniadau pwysig yn ddiweddarach heddiw.

Fe fydd hi’n cyfarch dros 100 o ferched blwyddyn 12 mewn cynhadledd o dan y teitl ‘Mae Merched yn Gwneud Gwahaniaeth’ ac yn eu hannog i wneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

Bwriad y gynhadledd – sydd hefyd am glywed gan yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru; Jessica Leigh Jones, Peiriannwr y Flwyddyn yn 2012; a’r Chwaraewr Hoci Olympaidd Sarah Thomas – yw ysbrydoli merched a dangos bod modd dilyn gyrfa mewn meysydd llai traddodiadol.

‘Agwedd israddol’

Mae’n dilyn araith am ffeministiaeth gan yr actores 24 oed Emma Waston dros y penwythnos, sydd wedi creu cryn argraff ar y gwefannau cymdeithasol.

Roedd Emma Watson yn siarad fel llysgennad y Cenhedloedd Unedig mewn cynhadledd yn Efrog Newydd, pan ddywedodd ei bod wedi dod yn ymwybodol o agwedd israddol tuag at ferched am y tro cyntaf yn wyth oed.

Roedd hi hefyd yn lansio ymgyrch o’r enw ‘heforshe’ sy’n galw ar ddynion i godi llais dros ferched sy’n cael eu gormesu.

Llais

Dywedodd Lesley Griffiths: “Mae angen clywed lleisiau merched ac mae angen i gyrff sy’n gwneud penderfyniadau, fel awdurdodau lleol a’r llywodraeth, gynrychioli eu cymunedau.

“Rwy’n annog pob merch i wneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu clywed.”