Mae cwmni Dairy Crest wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cau dwy ffatri gan gael gwared a 260 o swyddi mewn ymdrech i dorri costau.

Bydd y cwmni o Surrey yn cau ffatri yn Hanworth, gorllewin Llundain a safle arall yn Chard, Gwlad yr Haf fel rhan o’i ymgyrch i arbed £20 miliwn y flwyddyn.

Mae’r cwmni sy’n cynhyrchu menyn Country Life a chaws Catherdral City, hefyd wedi rhybuddio y bydd ei busnes hufenfeydd yn cyhoeddi colled yn y chwe mis hyd at 30 Medi.

Dywed Dairy Crest y bydd ei ffatri potelu llaeth yn Hanworth, sy’n cyflogi 200 o bobl, yn aros ar agor am ddwy flynedd cyn y bydd yn cael ei chau.

Yn ôl y cwmni mae’r safle wedi dioddef gan fod yn well gan gwsmeriaid brynu eu llaeth mewn poteli plastig yn hytrach na rhai gwydr.

Bydd y ffatri yn Chard, sy’n cyflogi 60 o bobl, yn cau yn ail hanner 2015.

Mae Dairy Crest wedi cau nifer o ffatrïoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ei ymdrech i geisio rheoli costau.