Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gomisiynydd y Gymraeg i ymyrryd ar ôl dweud fod polisi iaith newydd Undeb Rygbi Cymru’n ‘wan’.
Heddiw fe gyhoeddodd yr undeb Bolisi Iaith Gymraeg newydd y maen nhw’n dweud fydd yn sicrhau bod yr iaith yn cael ei hystyried ar draws pob agwedd ar fusnes a rygbi.
I gyd-fynd â’r cyhoeddiad, mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cyhoeddi gwefan ddwyieithog newydd.
Ond mae’r ymgyrchwyr iaith wedi dweud nad yw hyn yn ddigon, gan alw ar Gomisiynydd y Gymraeg i fynnu bod Undeb Rygbi Cymru yn cadw at reoliadau iaith newydd.
Mae modd i Gomisiynydd y Gymraeg, gyda chydweithrediad y Cynulliad, ychwanegu cyrff sy’n derbyn rhywfaint o arian cyhoeddus at restr o gyrff sy’n gorfod cydymffurfio â hawliau iaith newydd o dan Fesur y Gymraeg 2011.
Bu cefnogwyr rygbi yn galw ar yr Undeb i weithredu yn fwy dwyieithog ers misoedd, ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith fe allai’r Undeb gael ei gorfodi i wneud hyn yn oed mwy.
“Mae’r polisi hwn yn wan. Mae’n atgoffa rhywun o’r math o wyngalchu y’ch chi’n ei gael gan gwmnïau mawrion nad sy’n wirioneddol ymrwymedig i’r iaith,” meddai Jamie Bevan, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Does dim hyd yn oed amserlen ar gyfer cyflawni’r addewidion amwys sydd yn y cynllun.
“Mae modd i Gomisiynydd y Gymraeg weithio er mwyn dod â chyrff sydd wedi derbyn arian cyhoeddus o dan ddyletswydd cyfraith 2011; dylai hi ddefnyddio’r pwerau hynny yn achos Undeb Rygbi Cymru.
“Byddai hynny’n sicrhau bod cyrsiau a hyfforddiant i bobl ifanc yn cael eu darparu yn Gymraeg, ynghyd â delio â nifer o ddiffygion eraill yr undeb.”