Gwrthryfelwyr yn yr Wcrain
Mae cerbydau milwrol wedi cychwyn gadael ardaloedd o ddwyrain yr Wcráin sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr, yn ôl swyddogion.

Mae’n cael ei weld fel cam pwysig i weithredu’r cadoediad yn yr ardal, yn dilyn honiadau nad yw lefel y trais yno wedi gwella ers  i’r cadoediad gael ei gyhoeddi ar 5 Medi.

Dywedodd y Cyrnol Andriy Lysenko, llefarydd ar ran Cyngor Diogelwch ac Amddiffyn yr Wcráin, fod lluoedd Kiev  wedi cychwyn gadael.

Ychwanegodd fod cerbydau’r gwrthryfelwyr, sy’n gefnogol i Rwsia, wedi dechrau cilio hefyd.

Mae tua 3,000 o bobol wedi cael eu lladd ers i’r gwrthdaro ffyrnig ddechrau yn yr Wcráin ym mis Ebrill.