Ed Balls
Mae llefarydd y Blaid Lafur ar y Trysorlys, Ed Balls, wedi dweud na fyddai Llafur yn pleidleisio dros setliad cyfansoddiadol sydd wedi cael ei “ruthro” yn sgil y refferendwm yn yr Alban.
Pan ofynnwyd iddo sut y byddai’n pleidleisio ar y mater o Aelodau Seneddol Lloegr yn unig yn pleidleisio ar ddeddfau Lloegr yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd nad oedd yn credu y byddai David Cameron yn llwyddo i roi’r cwestiwn mor syml heb edrych fel “siarlatan”.
Pwysleisiodd hefyd ei fod eisiau osgoi cael dwy Senedd, dau brif weinidog a chreu ail ddosbarth o Aelodau Seneddol.
Fe wnaeth Ed Balls ei sylwadau ym Manceinion cyn ei araith i gynhadledd flynyddol y Blaid Lafur.
Meddai Ed Balls: “Pan mae David Cameron yn addo rhyw ateb hawdd, rwy’n ofni ei fod yn eich twyllo.
“Llynedd, dywedodd y Llywodraeth na fydden nhw’n rhuthro’r cwestiwn anodd hwn. Dywedodd Boris Johnson heddiw bod rhaid i ni gymryd ein hamser i wneud hyn yn iawn.”
Posibilrwydd bydd y DU yn gadael Ewrop
Yn y cyfamser, mae llefarydd y blaid ar faterion tramor wedi dweud wrth y gynhadledd bod David Cameron wedi llosgi pontydd ar y cyfandir a bod y DU yn cwsgerdded tuag at adael yr UE.
Dywedodd Douglas Alexander bod y ffordd mae Cameron yn plygu i ddymuniad aelodau Ewro-sgeptig ei blaid yn golygu nad oedd y Prif Weinidog wedi ffurfio perthynas gydag arweinwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd – rhywbeth sy’n hanfodol mewn unrhyw drafodaeth ar setliad newydd, meddai.
Ychwanegodd bod Llafur eisiau gweld yr UE yn cael ei ddiwygio ond y byddai gadael yr undeb yn syniad gwael – yn wleidyddol ac yn economaidd.