Cyrff y ddau yn cael eu cludo o'r traeth
Mae dau frawd o Brydain wedi cael eu holi gan yr heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth dau Brydeiniwr yng Ngwlad Thai.
Daethpwyd o hyd i gyrff David Miller, 24, a Hannah Witheridge, 23, ar draeth yn Koh Tao ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu yng Ngwlad Thai bod y brodyr Christopher a James Ware wedi cael eu holi ynghyd ag 11 o bobl o Burma sydd hefyd yn cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â’r llofruddiaethau.
Nid yw Christopher a James Ware yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Dywed yr heddlu bod tystiolaeth gref wedi’u harwain at 11 o bobl o Burma ar ôl i olion gwaed gael eu darganfod ar eu dillad. Mae profion DNA yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.
Dioddefodd David Miller a Hannah Witheridge anafiadau difrifol i’w pen a’u hwynebau.
Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gyfarpar garddio ger y safle lle y daethon nhw o hyd i’r cyrff, ac mae lle i gredu mai’r cyfarpar hwnnw gafodd ei ddefnyddio i ladd y ddau.
Bu farw Hannah Witheridge o anafiadau i’w phen tra bod David Miller wedi marw o ganlyniad i foddi ac anafiadau i’w ben.
Mae mwy na 70 o aelodau heddlu Gwlad Thai wedi bod yn holi tystion ar yr ynys.
Mae teulu’r ddau wedi talu teyrnged iddyn nhw.
Dywedodd teulu Hannah Witheridge ei bod hi’n “hardd, galluog a serchus”, tra bod teulu David Miller wedi ei ddisgrifio fel dyn “oedd yn gweithio’n galed, yn alluog ac yn gydwybodol”.
Mae swyddogion o Brydain wedi teithio i Bangkok i drafod yr ymchwiliad gyda swyddogion Gwlad Thai.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n barod i gynnig cefnogaeth i’r ymchwiliad pe bai angen.