Pencadlys Cyngor Gwynedd
Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo ymgynghoriad statudol ar gau 10 ysgol yn ardal Dolgellau a sefydlu un ysgol gymunedol i blant rhwng 3-16 oed.
Cafodd y penderfyniad ei wneud mewn cyfarfod o gabinet y cyngor ddoe gyda’r bwriad o “wella safonau addysgol a sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau, staff a chyfleusterau.”
O dan y cynlluniau newydd, bydd un ysgol uwchradd – Ysgol y Gader – a naw o ysgolion cynradd eraill – Dolgellau, Clogau, Brithdir, Dinas Mawddwy, Ganllwyd, Llanelltyd, Rhydymain, Friog a Llanfachraeth – yn cau.
Bydd £4.3 miliwn yn cael ei fuddsoddi ar wella cyflwr a safon adeiladau’r ysgolion, gydag un pennaeth yn gyfrifol am ei rhedeg.
Fe benderfynodd Cyngor Gwynedd gymeradwyo’r ymgynghoriad o ganlyniad i ostyngiad yn nifer y disgyblion a’r angen i leihau costau. Honnir y bydd y newid yn arbed tua £255,625 y flwyddyn.
‘Heriau’
“Oherwydd nifer o heriau, gan gynnwys niferoedd disgyblion isel, lefel uchel o lefydd gweigion, problemau recriwtio penaethiaid a’r angen am gyflwyno gwelliannau i nifer o adeiladau ysgolion yn yr ardal, mae’r Cyngor wedi adnabod dalgylch y Gader fel ardal lle y dylid ystyried ad-drefnu addysg,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.
“Fel mae’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn nodi, gallai sefydlu un ysgol ddilynol dalgylchol ar safleoedd presennol chwe ysgol, wella safonau addysgol a sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau, staff a chyfleusterau ar draws yr holl oedrannau i’r dalgylch cyfan.
“Trwy gyflwyno model arloesol, byddai modd sicrhau sefydlogrwydd addysgol tymor hir i ddisgyblion, rhieni a staff y dalgylch.”