Lesley Griffiths
Fe fydd cyllid ychwanegol o £2 filiwn yn cael ei roi i wasanaethau cynghori di-dâl ymdopi a’r galw cynyddol am gymorth gan bobol sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi hefo’r sefyllfa ariannol bresennol.
Daeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog Trechu Tlodi newydd, Lesley Griffiths, heddiw.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddyblu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau cynghori ym mis Gorffennaf, o £1 miliwn i £2 filiwn.
Bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei rannu rhwng pum sefydliad ac yn “mynd i’r afael a thlodi ac anghydraddoldeb ledled Cymru,” yn ôl y Llywodraeth.
Y pedwar sefydliad fydd yn elwa o’r arian yw:
• Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru – £1.3 miliwn
• Cyngor ar Bopeth Cymru a SNAP Cymru – £390,000
• Age Cymru – £224,209.00
• Tenovus – £103,076.38
‘Hanfodol’
“Mae gwasanaethau cynghori di-dâl yn darparu cymorth hanfodol i bobol sy’n wynebu realiti’r sefyllfa ariannol sydd ohoni,” meddai Lesley Griffiths.
“Bydd y cyllid ychwanegol yn gymorth i gefnogi ac ysbrydoli pobol i wneud penderfyniadau ariannol.”