Llys Ynadon Wrecsam
Mae dyn o’r Wyddgrug yn cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos mewn llys yn Wrecsam ar gyhuddiad o lofruddio dynes.

Cafwyd hyd i gorff Karen Catherall, 45 oed, yn ei chartref yn Gwernaffield, ger yr Wyddgrug am 3.34 fore Sul.

Roedd archwiliad post mortem wedi dangos bod ganddi anafiadau i’w phen a’i bod wedi cael ei thagu.

Cafodd cwest i’w marwolaeth ei agor a’i ohirio ddydd Llun.

Cafodd Darren John Jeffreys o Bwll Glas, yr Wyddgrug, ei arestio ddydd Llun ac mae wedi ymddangos gerbron ynadon yn Wrecsam ar gyhuddiad o lofruddiaeth y bore ma.

Teyrnged

Mae teulu Karen Catherall wedi rhoi teyrnged iddi:
“Roedd Karen yn llawn bywyd, wastad yn chwerthin a doedd ’na byth foment ddiflas yn ei chwmni. Fe fydd hiraeth mawr ar ôl Karen, ac fe fyddwn ni’n ei chadw yn ein calonnau am byth.”