Cyrff David Miller a Hannah Witheridge yn cael eu symud o'r traeth ddoe
Mae’r heddlu yng Ngwlad Thai wedi dweud eu bod yn chwilio am weithwyr o dramor yn yr ymgyrch i ddod o hyd i’r person sy’n gyfrifol am lofruddio dyn a dynes ifanc o Loegr.
Cafodd cyrff David Miller, 24, o Jersi, a Hannah Witheridge, 23, o Norfolk, eu darganfod ar draeth ar ynys Koh Tao, sy’n adnabyddus am safleoedd deifio a thraethau prydferth, ddoe. Roedd y ddau wedi cael anafiadau difrifol i’w pennau.
Cafwyd hyd i ddillad y ddau a hof gyda gwaed arno gerllaw. Mae’r heddlu’n credu bod yr hof wedi cael ei ddefnyddio i ladd y cwpl.
Mae’r heddlu’n awyddus i siarad gyda dyn arall o Brydain, ond yn pwysleisio nad yw’n cael ei amau o gyflawni’r drosedd.
Ymgyrch
Mae mwy na 70 o blismyn yn rhan o’r ymgyrch i ddod o hyd i’r llofrudd a chredir mai dyn o dras Asiaidd yw’r dyn sy’n gyfrifol:
“Rydym yn chwilio am weithiwyr o dramor yn sgil y dystiolaeth sydd gennym gan lygad dystion a CCTV,” meddai’r swyddog Kiattipong Khawsamang.
“Rydym yn chwilio mewn gwestai, busnesau a thai gweithwyr ar y traeth er mwyn dod o hyd i’r troseddwr.”