David Cameron
Mae disgwyl i ymdrechion rhyngwladol i lunio strategaeth derfynol ar gyfer gweithredu yn erbyn eithafwyr IS ddwysau heddiw ar ôl i David Cameron ddweud y byddai Prydain yn ceisio cael cefnogaeth y Cenhedloedd Unedig (CU) ar gyfer y cynlluniau.
Yn dilyn cynhadledd frys o weinidogion tramor o 30 o wledydd ddoe, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn credu y bydd y CU yn cefnogi strategaeth ryngwladol i geisio mynd i’r afael a’r bygythiad gan y grŵp eithafol Islamic State.
Fe gytunodd y gwledydd ddoe i gefnogi Irac ym mhob ffordd posib yn sgil y bygythiad gan eithafwyr IS.
Yn y cyfamser dywed swyddogion yn yr Unol Daleithiau bod awyrennau America wedi cynnal ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd IS yn Baghdad a ger Mynydd Sinjar yng ngogledd Irac o fewn y 24 awr ddiwethaf.
Dyma’r tro cyntaf i awyrennau America dargedu’r milwriaethwyr mor agos i brifddinas Irac.