Mae arweinwyr y prif bleidiau gwleidyddol yn San Steffan wedi arwyddo datganiad sy’n addo datganoli rhagor o bwerau i’r Alban os yw’r Albanwyr yn gwrthod annibyniaeth.
Mae’r addewid, sy’n ymddangos ar dudalen flaen papur newydd y Daily Record, wedi cael ei arwyddo gan David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg.
Un o’r ymrwymiadau yn y datganiad yw diogelu Fformiwla Barnett.
Ond yn ôl ymgyrchwyr o blaid annibyniaeth mae’r datganiad yn arwydd o banig gan y pleidiau yn San Steffan.
Gyda dim ond 48 awr ar ôl cyn i bobl fwrw eu pleidlais, fe fydd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon yn galw ar yr Albanwyr i fanteisio ar “gyfle anhygoel” a fydd, meddai, yn creu rhagor o swyddi ac yn diogelu’r Gwasanaeth Iechyd (GIG).
Wrth siarad cyn ymweliad a chwmni Steel Engineering yn Renfrew dywedodd: “Dim ond pleidlais Ie a fydd yn sicrhau bod gennym ni bwerau llawn dros greu swyddi – gan ei galluogi i greu rhagor o swyddi a gwell swyddi ar draws y wlad.
“Felly yn hytrach na bod 40,000 o bobl ifainc yn gadael yr Alban bob blwyddyn, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, fe fydd rhagor o gyfleoedd i’n pobl ifanc yma.”
Ychwanegodd: “Ddydd Iau mae gennym ni gyfle euraidd i roi dyfodol yr Alban yn nwylo’r Alban am byth gyda phleidlais Ie. Mae’n rhaid i ni gydio yn y cyfle anhygoel yma.”
Yn y cyfamser fe fydd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband yn dadlau y bydd pleidlais Ie yn y refferendwm yn peryglu swyddi, yr economi a’r GIG, ac y byddai pleidlais Na yn caniatáu i’r Alban arwain newidiadau ar draws y DU.
Ddoe, fe wnaeth David Cameron apel emosiynol yn erfyn ar bobl yr Alban i aros yn rhan o’r DU.