LLys y Goron Caerdydd
Mae disgwyl i achos ddechrau yn Llys y Goron Caerdydd heddiw yn erbyn tad a mab sydd wedi’u cyhuddo o orfodi dyn i weithio ar eu fferm.
Cafodd Daniel Doran, 67, a’i fab David Doran, 42 oed, o Lanbedr Gwynllŵg eu harestio’r llynedd ar ôl i’r heddlu archwilio Fferm Cariad yn ardal Maerun ger Casnewydd.
Roedd Darrell Simester o Kidderminster, oedd wedi bod ar goll ers 2000, wedi cael ei ddarganfod ar y fferm.
Mae Daniel Doran a David Doran wedi pleidio’n ddieuog i gyhuddiad o orfodi Darrell Simester i weithio ar y fferm.
Fe fydd yr achos yn cychwyn yn Llys y Goron Caerdydd heddiw ac mae disgwyl iddo bara rhwng pedair a chwe wythnos.