Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dal i holi dyn sy’n cael ei amau o lofruddio dynes 45 oed yn Sir y Fflint.

Cafodd yr heddlu 36 awr ychwanegol i holi’r dyn, 47, ddoe.

Cafodd ei arestio ar ôl i’r ddynes gael ei darganfod yn farw mewn tŷ yn High Park yn Y Waun, Yr Wyddgrug, yn oriau man fore Sul.

Cafodd cwest i farwolaeth y ddynes ei agor a’i ohirio yn Rhuthun ddydd Llun.

Dywedodd y ditectif arolygydd, Mark Hughes: “Mae ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal ac rydym yn rhoi cefnogaeth i deulu’r ddynes.

“Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a all fod o gymorth i roi galwad i ni ar 101.”