David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud y byddai miliynau o bobl ar draws y DU yn “torri eu calonnau” petai’r Alban yn pleidleisio o blaid gadael y DU.

Ac fe rybuddiodd y Prif Weinidog bod y refferendwm ddydd Iau yn benderfyniad “unwaith ac am byth” wrth iddo wneud ymdrech olaf i geisio annog pleidleiswyr i achub yr undeb.

Wrth siarad yn Aberdeen, dywedodd David Cameron y byddai pleidlais o blaid annibyniaeth yn arwain at “ysgariad poenus”.

“Dyma benderfyniad a all wahanu ein teulu o genhedloedd, a rhwygo’r Alban o weddill y DU.

Ac mae’n rhaid i ni fod yn glir. Nid oes unrhyw droi nôl. Mae hyn yn benderfyniad unwaith ac am byth.

“Os yw’r Alban yn pleidleisio Ie, fe fydd y DU yn gwahanu ac fe fyddan ni’n mynd ar drywydd gwahanol am byth.”

Yn y cyfamser mae Prif Weinidog yr Alban wedi bod yn cwrdd ag arweinwyr busnes yng Nghaeredin er mwyn pwysleisio’r buddiannau a ddaw yn sgil annibyniaeth.

Gydag arolygon barn yn parhau i awgrymu bod y frwydr rhwng y ddwy ochr yn agos iawn, mae Alex Salmond wedi dweud y gallai’r refferendwm ddydd Iau fod yn “gyfle unwaith mewn oes” i bobl yn yr Alban.