Llys y Goron Caerdydd
Mae’r rheithgor wedi ei ddewis ar gyfer achos llys yn erbyn tad a mab o Gymru sydd wedi’u cyhuddo o orfodi dyn i weithio ar eu fferm.
Cafodd Daniel Doran, 67, a’i fab David Doran, 42 oed, o Lanbedr Gwynllŵg eu harestio’r llynedd ar ôl i’r heddlu archwilio Fferm Cariad yn ardal Maerun ger Casnewydd.
Roedd Darrell Simester o Kidderminster, a oedd wedi bod ar goll ers 2000, wedi cael ei ddarganfod ar y fferm.
Mae Daniel Doran a David Doran wedi pleidio’n ddieuog i gyhuddiad o orfodi Darrell Simester i weithio ar y fferm.
Fe fydd yr achos yn cychwyn yn Llys y Goron Caerdydd yfory ac mae disgwyl iddo bara rhwng pedair a chwe wythnos.