Fe allai Cymru ddilyn trywydd gwlad fel Montenegro a phenderfynu ei bod hi hefyd eisiau gadael y Deyrnas Unedig ychydig flynyddoedd ar ôl i’r Alban wneud hynny, yn ôl un academydd.
Mewn blog ar wefan Click On Wales fe awgrymodd Simon Gwyn Roberts bod modd cymharu sefyllfa Cymru â Montenegro yn 2006.
Bryd hynny fe gynhaliwyd refferendwm ble benderfynodd pobl Montenegro i wahanu oddi wrth Serbia a ffurfio’u gwladwriaeth eu hunain.
Pan adawodd gwledydd fel Croatia, Slovenia a Macedonia’r hen wladwriaeth Iwgoslafia yn y 1990au ni ddilynodd Montenegro’r trywydd hwnnw i ddechrau, yn rhannol oherwydd cysylltiadau diwylliannol agos â Serbia.
Ond wrth i’r blynyddoedd fynd heibio dechreuodd gwleidyddion y wlad fynd yn fwy anesmwyth o’r ffaith eu bod ynghlwm â Serbia, gwlad oedd yn llawer mwy na hi ac oedd yn cael ei neilltuo’n rhyngwladol.
Fe arweiniodd hynny at refferendwm ar annibyniaeth yn y diwedd – pan bleidleisiodd mwyafrif clir o bobl o dras ethnig Montenegraidd o blaid, ond Serbiaid yn yr ardaloedd ffiniol yn erbyn.
Cymharu â Chymru
Mae’r academydd o Brifysgol Caer yn pwysleisio fod cyd-destun gwleidyddol Cymru a Montenegro’n dra gwahanol, ac mai awgrymu esiampl posib o drywydd yn unig y mae ef.
“I estyn y gymhariaeth, gallwch gymharu Serbia â Lloegr, Montenegro â Chymru, a’r Iwgoslafia oedd yn weddill am rUK,” meddai Simon Gwyn Roberts.
Fe allai Cymru ganfod ei hun yn yr un sefyllfa o fod eisiau gadael ei chymydog mawr oedd yn amhoblogaidd dramor ac ymuno â’r gymuned Ewropeaidd yn lle hynny – yn enwedig petai Lloegr yn tynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd.
Fe allai’r Brydain honno y tu allan i Ewrop wedyn fod yn llawer mwy dibynnol ar gefnogaeth gwladwriaeth enfawr yr UDA – yn yr un modd ag y mae Rwsia’n gefnogol i Serbia.”
Ac mae hefyd yn gweld y gallai’r hollt yn refferendwm annibyniaeth Montenegro gael ei hefelychu yng Nghymru, ble byddai’r Fro Gymraeg yn pleidleisio’n wahanol i’r ardaloedd mwy Saesnig dwyreiniol.
“Wrth gwrs, mae hwn yn senario ddychmygol mewn cyd-destun gwahanol a ffactorau gwahanol iddi,” esbonia Simon Gwyn Roberts.
“Ond mae esiampl Montenegro yn dangos nad yw annibyniaeth yn fater o hunaniaeth sifig, cenedlaetholdeb neu hunanreolaeth yn unig – mae’n gallu bod yn opsiwn default.”
Gallwch ddarllen y blog llawn yma.