Llys y Goron Abertawe
Mae athro ysgol gynradd wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe heddiw ar gyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda thair o ferched yn eu harddegau.
Fe wnaeth Jonathan Mark Norbury, sy’n athro yn Ysgol Gynradd Casllwchwr, bledio’n ddieuog i 15 cyhuddiadau yn ei erbyn.
Roedd deg o’r cyhuddiadau yn ymwneud a chyffwrdd y merched, a oedd yn 14 a 15 oed ar y pryd, yn rhywiol.
Mae’r pum cyhuddiad arall yn ymwneud ag “annog neu achosi” i’r merched hynaf i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol.
Fe bleidiodd yr athro 33 oed yn ddieuog i’r holl gyhuddiadau.
Mae Jonathan Norbury wedi’i wahardd o’i waith ar hyn o bryd, yn ôl Cyngor Abertawe.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth nes y bydd yr achos yn ei erbyn yn cychwyn ar 8 Rhagfyr.
Nid yw’r cyhuddiadau yn ei erbyn yn ymwneud a disgyblion o Ysgol Gynradd Casllwchwr.