Philip Hammond
Mewn cynhadledd frys o weinidogion tramor ym Mharis heddiw, mae arweinwyr a diplomyddion o fwy na 30 o wledydd wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi Irac ym mhob ffordd bosib yn sgil y bygythiad gan eithafwyr Islamaidd.

Cafodd y trafodaethau eu harwain gan Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wrth i Ffrainc baratoi i anfon ei hawyrennau i Irac.

Mae Stryd Downing eisoes wedi dweud na fydd cyfarfod brys yn y Senedd i drafod y sefyllfa ond yn dilyn y cyfarfod ym Mharis prynhawn ma dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond y byddai Prydain yn fodlon chwarae rol “amlwg” yn yr ymgyrch yn erbyn y grŵp eithafol Islmaic State (IS).

Ond nid oedd yn fodlon cadarnhau a fyddai’r Llywodraeth yn barod i ymuno a’r Unol Daleithiau yn eu hymosodiadau o’r awyr ar IS yn Syria.

Alan Henning

Yn dilyn llofruddiaeth David Haines dros y penwythnos, mae IS wedi bygwth lladd y gyrrwr tacsi o Fanceinion, Alan Henning, a gafodd ei gipio yn Syria pan oedd yn cludo nwyddau dyngarol mewn confoi.

Dywedodd Philip Hammond nad oedd lluoedd Prydain yn gallu dechrau ymdrech i’w achub gan nad ydyn nhw’n gwybod yn lle mae’n cael ei gadw’n wystl.

Dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn fodlon ystyried “pob math o opsiynau” petai nhw’n gwybod lle’r oedd y gwystlon.

Ychwanegodd bod teulu Alan Henning yn “mynd drwy uffern” ond eu bod yn deall bod y Llywodraeth yn wynebu cyfyngiadau yn yr hyn maen nhw’n gallu ei wneud i’w helpu.