Mae Better Together wedi derbyn bron i filiwn o bunnoedd yn fwy nag ymgyrch Ie dros annibyniaeth i’r Alban, yn ôl ffigyrau newydd heddiw.

Mae cyfanswm o dros £4.5m wedi cael ei roi i’r ddwy ymgyrch, gyda’r ochr Na yn derbyn £2,743,000 a’r ymgyrch o blaid annibyniaeth yn derbyn £1,822,000.

Cafodd y ffigyrau terfynol eu rhyddhau gan y Comisiwn Etholiadol tridiau cyn i bobl yr Alban bleidleisio yn y refferendwm ar ddydd Iau.

Rhwng 22 Awst a 5 Medi cafodd £120,000 ychwanegol ei roi tuag at yr ymgyrch Ie, gyda William Tait Senior yn rhoi £100,000 a chyn-gadeirydd yr RBS Sir George Mathewson yn rhoi £20,000.

Yn yr un cyfnod, fe roddodd is-lywydd clwb pêl-droed Chelsea Joe Hemani £10,000 i grŵp Let’s Stay Together, sydd wedi bod yn casglu enwau selebs yn erbyn annibyniaeth.

Yn ôl rheolau ariannu’r ymgyrchoedd mae’n rhaid datgelu enw unrhyw unigolyn sydd yn cyfrannu mwy na £7,500 i unrhyw ymgyrch.

Y cyfranwyr mwyaf tuag at ymgyrch swyddogol Ie dros annibyniaeth yw Colin a Christine Weir, sydd wedi rhoi £1miliwn o’u henillion loteri i’r ymgyrch.

Y person roddodd y swm fwyaf o arian i Better Together oedd awdur llyfrau Harry Potter, JK Rowling, a gyfrannodd £1miliwn hefyd.