Dr Myles Bradbury
Mae meddyg plant wedi pledio’n euog i gyhuddiadau o gam-drin plant yn rhywiol tra roedden nhw yn ei ofal.

Roedd rhai o’r plant, a oedd yn dioddef o ganser, mor ifanc ag 11 oed.

Roedd Dr Myles Bradbury, 41, yn gweithio fel meddyg gwaed yn Ysbyty Addenbrooke’s yng Nghaergrawnt.

Yn Llys y Goron Caergrawnt heddiw fel blediodd yn euog i chwe chyhuddiad o gam-drin rhywiol ac 13 cyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol gyda phlentyn.

Roedd Bradbury hefyd wedi pledio’n euog i un cyhuddiad o sbecian a dau gyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant. Fe gadarnhaodd yr heddlu bod mwy na 16,000 o ddelweddau anweddus o blant wedi cael eu darganfod ar ddisg yng nghartref Bradbury yn Suffolk.

Mae’r troseddau’n ymwneud ag 18 o blant rhwng 8 ac 17 oed rhwng 2009 a 2013.

Daeth yr achosion o gamdrin i’r amlwg ar ôl i un o’r dioddefwyr siarad gyda’i rieni am yr hyn ddigwyddodd a chafodd Bradbury ei atal o’i waith gan y GIG ym mis Tachwedd y llynedd cyn cael ei arestio ym mis Rhagfyr.

Nid oes dyddiad wedi cael ei bennu ar gyfer ei ddedfrydu ond mae’r barnwr wedi rhybuddio Bradbury ei fod yn wynebu cyfnod “sylweddol” yn y carchar.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd ei enw yn cael ei gynnwys ar y gofrestr troseddwyr rhyw.

Wrth ymddiheuro i’r dioddefwyr a’u teuluoedd dywedodd Dr Keith McNeil, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Iechyd Ysbytai Caergrawnt, ei fod wedi ei “dristau” bod yr ymddiriedaeth rhwng Bradbury a’i gleifion wedi cael ei dorri.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Swydd Caergrawnt heddiw y gallai Bradbury fod wedi cam-drin rhagor o blant ac mae llinell ffon wedi cael ei sefydlu ar gyfer rhieni, cleifion neu gyn gleifion sydd ag unrhyw bryderon. Y rhif yw 0800 389 8625.