Milwyr yn ymarfer yn y Bannau
Mae cwest i farwolaeth tri o filwyr, fu farw yn dilyn sesiwn hyfforddiant ar gyfer yr SAS ym Mannau Brycheiniog, wedi cael ei ohirio tan y flwyddyn nesaf.
Roedd disgwyl i’r gwrandawiad fu’n ymchwilio i farwolaeth Edward Maher, Craig Roberts a James Dunsby ddechrau fis nesaf yn Solihull.
Ond mae’r cwest bellach wedi cael ei ohirio tan 1 Mehefin, 2015.
Roedd crwner Birmingham a Solihull, Louise Hunt, wedi dyfarnu yn gynharach y mis hwn na allai cwest llawn gael ei gynnal nes bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cwblhau adolygiad o farwolaethau’r tri.
Mae erlynwyr yn adolygu penderfyniad i beidio â dwyn cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd yn erbyn dau filwr SAS oedd yn goruchwylio’r prawf ar fynydd Pen y Fan ym mis Gorffennaf y llynedd.
Mae’n debyg bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cael cais i ail-edrych ar yr achos gan deuluoedd dau o’r milwyr.
Bu farw’r Is-gorporal Craig Roberts, 24 oed, o Fae Penrhyn, a’r Is-gorporal Edward John Maher, 31 oed, ar ôl gorboethi yn ystod y sesiwn hyfforddiant ar gyfer mynediad i’r SAS ar Pen y Fan ar 13 Gorffennaf y llynedd – un o ddiwrnodau poetha’r flwyddyn.
Bu farw’r Corporal James Dunsby yn yr ysbyty bythefnos yn ddiweddarach o hyperthermia ac ar ôl i’w organau fethu.