Cyngor Gwynedd
Fe fydd Cyngor Gwynedd yn casglu syniadau gan y cyhoedd er mwyn ceisio dod o hyd i ffyrdd i ymdopi hefo’r toriadau “brawychus” sy’n ei wynebu.

Wrth amcangyfrif y bydd Gwynedd yn wynebu diffyg o tua £50 miliwn yn y gyllideb rhwng rŵan a 2017-18, dywedodd arweinydd y cyngor, Dyfed Edwards, nad oes posib i’r cyngor barhau fel y mae a bod angen help y cyhoedd i flaenoriaethu’r gwasanaethau.

Yn sgil hyn, mae’r cyngor yn lansio trafodaeth ymgynghoriad cyhoeddus o’r enw ‘Her Gwynedd’ ar draws y sir.

Toriad o £8.1 miliwn sy’n wynebu Cyngor Gwynedd eleni.

‘Brawychus’

“Mae sialensiau ariannol a’r newid demograffeg sydd o’n blaenau yn frawychus, a gellir dim ond eu diwallu drwy ddod at ein gilydd i adnabod y gwasanaethau hynny mae pobol leol am i’r Cyngor eu blaenoriaethu yn y blynyddoedd i ddod. Achos, yn syml, ni allwn barhau fel yr ydym.

“Yma yng Ngwynedd, mae maint y sialens sydd o’m blaenau yn fwy na un wynebwyd o’r blaen.

“Mae ein neges i bobol Gwynedd yn glir – rydym eisiau clywed beth sydd gennych chi i’w ddweud fel ein bod yn gallu sicrhau fod pob punt sydd ar gael yn cael ei wario ar y gwasanaethau lleol sydd fwyaf pwysig i chi.”

Yn ystod mis Hydref a Thachwedd bydd fforymau cyhoeddus yn cael eu cynnal yn y Bala, Bangor, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Dolgellau, Porthmadog, Pwllheli a Thywyn.