Mae pôl piniwn diweddaraf YouGov ac ITV Cymru wedi dangos bod cefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru wedi neidio i 17% yn ystod y misoedd diwethaf.
Fodd bynnag, mae’r ffigyrau hefyd yn dangos nad yw’r mwyafrif o bobl yng Nghymru’n credu y dylai hi na’r Alban fod yn annibynnol.
Heddiw fe gyhoeddwyd arolwg diweddaraf y Welsh Political Barometer a oedd yn dangos cefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru ar 17%, i fyny o 12% ym mis Ebrill, tra bod y canran yn gwrthwynebu wedi gostwng o 74% i 70%.
Mae polau piniwn yn y gorffennol wedi dangos fod pobl Cymru’n fwy tueddol o gefnogi annibyniaeth petai’r Alban hefyd yn mynd yn annibynnol, ac felly mae’n bosib fod llwyddiant diweddar yr ymgyrch Ie wedi effeithio ar y farn yng Nghymru.
Ond dim ond 21% o bobl Cymru sydd eisiau i’r Alban fynd yn annibynnol, yn ôl pôl heddiw, gyda 64% am iddi aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.
Fe ddangosodd y pôl hefyd fod cefnogaeth yng Nghymru dros ddatganoli pwerau dros dreth incwm yn tyfu, gyda 38% yn cefnogi a 39% yn gwrthwynebu.
Mae pleidiau gwleidyddol Llundain wedi addo datganoli mwy o bwerau i’r Alban os ydyn nhw’n pleidleisio Na, ac yn ddiweddar fe awgrymodd Carwyn Jones y dylai Cymru gael cynnig pwerau tebyg.
Fe ddangosodd y pôl hefyd fod cefnogaeth Llafur yng Nghymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf wedi llithro rhyw ychydig i 38%.
Maen nhw’n dal ar y blaen o’i gymharu â’r Ceidwadwyr (23%), UKIP (17%) a Phlaid Cymru (11%), gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 6% a’r Blaid Werdd ar (5%).
Llafur yn croesawu
Wrth ymateb i’r pôl heddiw fe ddywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur yng Nghymru eu bod yn croesawu’r ffaith bod y Cymry am i’r Albanwyr bleidleisio Na ddydd Iau.
“Mae pôl heddiw yn dangos pa mor gryf yw’r ymdeimlad ynglŷn â lle Cymru a’r Alban yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae’r neges i’r Alban o Gymru’n glir – rydym ni’n well gyda’n gilydd, peidiwch â’n gadael.
“Dyw pleidleisio ‘Na’ ddim yn golygu dim newid, rydym ni eisiau gweld newid er gwell yma yng Nghymru yn ogystal â’r Alban.”
Yn y cyfamser mae’r Aelod Seneddol Llafur Owen Smith wedi ymateb yn chwyrn i awgrym Aelod Cynulliad Plaid Cymru Elin Jones fod Carwyn Jones yn ‘bradychu’ Cymru wrth gefnogi pleidlais Na yn yr Alban.
Fe drydarodd Owen Smith heddiw: “Iaith hyll ranedig cenedlaetholdeb yn glir iawn yn narn @elinjonesplaid i’r W.Mail. Does neb yn ‘bradychu’ Cymru drwy ddweud #nothanks”.