Mae tua 20 o siopau Phones 4U ynghau yng Nghymru heddiw, wrth i drafodaethau gael eu cynnal am ddyfodol y cwmni.
Mae bron i 5,600 o swyddi ledled Prydain dan fygythiad ar ôl i’r cwmni gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Mae’n dilyn penderfyniad annisgwyl gan gwmni EE i ddod a’u cytundeb gyda’r cwmni i ben.
Mae Phones 4U yn gwerthu ffonau lôn ar ran y cynhyrchwyr.
Mae Vodafone eisoes wedi dod a’u cytundeb hefo Phones 4U i ben.
Dywedodd John Caudwell, wnaeth sefydlu’r cwmni yn y 1980au cyn ei werthu am £1.5 biliwn yn 2006, ei fod yn cydymdeimlo a staff y cwmni.
Yng Nghymru, mae gan Phones 4U siopau yng Nghasnewydd, Abertawe, Caerfyrddin, Y Drenewydd, Aberystwyth, Bangor, y Rhyl a Wrecsam gan gyflogi tua 150 o staff.