Mae un o bob pedwar o fyfyrwyr yn dioddef o aflonyddwch rhywiol yn ôl ymchwil newydd a gafodd ei gyhoeddi gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM) heddiw.
Mae’r canran yn sylweddol uwch ar gyfer merched na bechgyn, gyda 37% o ferched yn dweud bod rhywun wedi’u cyffwrdd mewn ffordd anweddus o’i gymharu â 12% o fechgyn, a chanran debyg o ferched hefyd yn dweud eu bod wedi derbyn sylwadau rhywiol oedd wedi’u haflonyddu.
Daw’r ffigyrau ar ôl i UCM gynnal arolwg o 2,000 o fyfyrwyr i geisio gweld beth oedd y problemau oedd i’w cael ym mhrifysgolion Prydain.
Dywedodd dau draean o’r myfyrwyr eu bod wedi gweld myfyrwyr eraill yn cael eu haflonyddu’n rhywiol, ac roedd dros hanner yn credu fod y broblem yn waeth i ferched nac i fechgyn.
Roedd 63% o ferched hefyd yn credu fod gwefannau fel Unilad a Lad Bible yn rhoi’r argraff anghywir o ferched, ond dim ond 43% o fechgyn oedd yn cytuno.
Fodd bynnag, doedd 60% o’r myfyrwyr a atebodd yr arolwg ddim yn gwybod am unrhyw ganllawiau ymddygiad gan eu prifysgolion neu undeb myfyrwyr i ddod i’r afael â’r broblem o aflonyddwch rhywiol.
Taclo ‘lad culture’
Wrth ymateb i’r ffigyrau fe ddywedodd Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Toni Pearce fod hyn yn awgrymu fod ‘lad culture’ yn parhau’n broblem mewn prifysgolion.
“Mae’r ystadegau yma’n dangos fod aflonyddwch i’w gael ar hyd y campws, ond rydym ni’n parhau i glywed gan brifysgolion nad oes ofn, bygythiad, problem – wel, mae’r ymchwil yma’n awgrymu fel arall,” meddai Toni Pearce.
“Mae’n rhaid iddyn nhw gydnabod y broblem ac ymuno â ni i’w taclo nhw.
“Mae gennym ni Dîm Strategaeth Genedlaethol Lad Culture sy’n cynnwys myfyrwyr, undeb myfyrwyr ac eraill fydd yn lansio cynllun peilot ar gyfer pump i ddeg undeb ym Mhrydain fydd yn asesu beth mae lad culture yn edrych fel ar eu campws, a beth sydd eisoes yno i daclo’r broblem.
“Dylai neb gael eu hamharchu neu deimlo nad ydyn nhw’n saff ar gampws, ac mae’n hanfodol fod ymddygiad sydd yn achosi hyn yn cael ei daclo.
“Mae angen i undebau myfyrwyr a phrifysgolion weithio gyda’i gilydd i greu campws sydd yn groesawgar, diogel a chefnogol i bawb.”