Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn 47 oed ar amheuaeth o lofruddio dynes yn Sir y Fflint.
Cafodd yr heddlu eu galw i dy yn High Park yn Y Waun, Yr Wyddgrug, ar ôl cais gan y Gwasanaeth Ambiwlans yn oriau man fore Sul.
Dywedodd yr heddlu fod y ddynes 45 oed, sydd heb ei henwi, a’r dyn yn dod o’r ardal leol.
“Mae ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal ac rydym yn cefnogi teulu’r ddynes,” meddai’r ditectif arolygydd Mark Hughes.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a all fod o gymorth i roi galwad I ni ar 101.”
Mae crwner Gogledd Ddwyrain Cymru wedi ei hysbysebu am y digwyddiad.