Nid yw bron i hanner y cleifion sydd wedi dioddef o drawiad ar y galon yn cael “gofal allweddol” ar ôl gadael yr ysbyty – sy’n cynyddu’r risg o farwolaeth, yn ôl arolwg newydd.
Daeth arbenigwyr o Brifysgol Leeds i’r casgliad fod peidio derbyn un o ‘naw cam gofal allweddol’ yn ystod y mis cyntaf ar ôl gadael yr ysbyty, yn cynyddu risg y claf o farwolaeth o 46%.
Roedd risg y claf o farw yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl gadael yr ysbyty hefyd yn codi i 74% os nad oedd yn derbyn pob un o’r naw cam gofal.
O’r 31,000 o bobol oedd yn gymwys i dderbyn y naw cam gofal, doedd bron i hanner ddim yn derbyn o leiaf un ohonyn nhw.
Mae’r naw cam yn cynnwys adfer y cyflenwad gwaed i’r galon, presgripsiwn o asbirin ar ôl gadael yr ysbyty, ac amseru pryd i gymryd pedwar math o gyffur.
Hanfodol
“Y drasiedi fwyaf yn hyn yw bod siawns osgoi marwolaethau,” meddai prif awdur yr arolwg, Dr Chris Gale.
“Mae cysylltiad clir rhwng darparu gofal cynhwysfawr ac amserol a siawns y claf o wella ar ôl trawiad ar y galon.
“Mae’n hanfodol bwysig bod gweithwyr iechyd sy’n gweithio yn y maes yn ymwybodol ac yn cael eu hyfforddi yn y naw cam gofal fel bod siawns y claf o oroesi yn uwch.”
Fe wnaeth yr arbenigwyr edrych ar y gofal a gafodd 100,000 o gleifion o Gymru a Lloegr rhwng mis Ionawr 2007 a Rhagfyr 2010.