David Beckham
Mae cyn-gapten tîm pêl-droed Lloegr David Beckham wedi dweud ei fod yn credu y dylai’r Alban aros yn y Deyrnas Unedig – wrth i’r dylunydd ffasiwn Vivienne Westwood gyhoeddi ei bod yn cefnogi annibyniaeth.

Dywedodd Beckham fod ei brofiad fel rhan o’r tîm a gynrychiolodd gais Gemau Olympaidd Llundain 2012 wedi creu cryn effaith arno.

Mewn llythyr agored a gafodd ei gyhoeddi gan yr ymgyrch Better Together, fe fynnodd y pêl-droediwr nad oedd am ddweud wrth bobl beth i’w wneud ond ei fod yn gobeithio y byddai’r Albanwyr yn pleidleisio Na i annibyniaeth.

“Fe gefais i gymaint o bleser yn gweld Syr Chris Hoy ac Andy Murray’n ennill aur [yn Llundain] ac y gwnes i’n gwylio Jess Ennis a Mo Farah yn y Stadiwm Olympaidd,” meddai Beckham.

“Rydyn ni eisiau i chi wybod faint mae ein perthynas a’n cyfeillgarwch yn ei olygu i ni.

“Mae beth sy’n ein huno’n llawer mwy na beth sy’n ein rhannu. Beth am aros gyda’n gilydd.”

Alban yn ‘esiampl’

Fe ddefnyddiodd Vivienne Westwood ei sioe ffasiwn ddoe i ddangos ei chefnogaeth i’r ymgyrch o blaid annibyniaeth, gan roi bathodynnau Ie ar ei modelau i gyd.

Roedd datganiad byr ar seddau’r bobl a ddaeth i’r sioe yn awgrymu y gallai pleidlais Ie “fod yn drobwynt ar gyfer byd gwell” ac y gallai’r Alban “arwain drwy esiampl”.

“Does gen i ddim balchder tuag at Loegr o gwbl oherwydd mae’n cael ei dinistrio’n llwyr,” meddai Vivienne Westwood ar ôl y sioe.

“Rwy’n gobeithio y gall yr Alban fod yn fodel o obaith i’r dyfodol gyda democratiaeth i’r bobl.”

Fe wnaeth y Frenhines hefyd sylw ar y refferendwm dros y penwythnos, er na wnaeth hi ddatgan safbwynt clir naill ffordd neu’r llall, gan ddweud ei bod hi’n gobeithio y bydd pobl yr Alban yn “meddwl yn ofalus iawn” am eu penderfyniad.

Dim ond tri diwrnod sydd i fynd tan y refferendwm, ac mae 97% o bobl yr Alban wedi cofrestru i bleidleisio.