Francois Hollande, Arlywydd Ffrainc
Mae Arlywydd Ffrainc wedi dweud bod yn rhaid cael ymgyrch rhygnwladol i reoli’r grŵp eithafol IS yn Irac a Syria ac “nad oes amser i laesu dwylo.”
Roedd yn siarad mewn cynhadledd ryngwladol o weinidogion tramor sy’n cwrdd ym Mharis i lunio strategaeth yn erbyn yr eithafwyr Mwslimaidd.
Wrth i awyrennau o Ffrainc baratoi i hedfan i Irac a Syria, mae tua 40 o wledydd eraill, gan gynnwys gwledydd Arabaidd, wedi cytuno i gynnal ymosodiadau o’r awyr yn ôl swyddog Americanaidd.
“Mae’r bygythiad brawychiaeth yn rhyngwladol ac mae rhaid i’r ymateb fod yn rhyngwladol,” meddai’r Arlywydd Francois Hollande wrth agor y gynhadledd. “Does dim amser i laesu dwylo.”
‘Dim cymhariaeth’
Ychwanegodd gweinidog tramor Ffrainc, Laurent Fabius, nad oedd y sefyllfa bresennol yn Irac a Syria yn cymharu hefo’r sefyllfa yn Irac yn 2003:
“Pan rydych yn arweinydd gwleidyddol, mae’n rhaid mesur y gost o beidio gweithredu,” meddai.
Mae llofruddiaeth y gweithiwr dyngarol o Brydain, David Haines, a’r bygythiad i ladd ail wystl, wedi cynyddu’r pwysau ar y glymblaid ryngwladol i gynnal ymosodiadau ar IS.
Cafodd fideo ei chyhoeddi gan IS ddydd Sadwrn yn dangos David Haines yn cael ei ddienyddio gan eithafwr gydag acen Saesneg. Mae’n debyg mai’r un rhai oedd yn gyfrifol am lofruddio dau newyddiadurwr Americanaidd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae ’na fygythiad hefyd i ladd Prydeiniwr arall, y gyrrwr tacsi Alan Henning, a gafodd ei gipio yn Syria pan oedd yn cludo nwyddau dyngarol mewn confoi.