Gwasanaeth bws Cardi Bach
Bydd gwasanaeth bws yng Ngheredigion yn dod i ben ddiwedd y mis meddai Cyngor Sir Ceredigion.
Cafodd gwasanaeth Cardi Bach ei lansio gan y cyngor yn 2004 er mwyn helpu pobl i deithio rhwng Aberteifi a Chei Newydd.
Mae’r cyngor nawr wedi cyhoeddi y bydd y gwasanaeth yn dod i ben ar 30 Medi oherwydd problemau cyllid.
Mae cwmni bysus Bws y Ddraig Werdd, sy’n gweithredu’r gwasanaeth ar ran y cyngor, wedi annog pobl i fwynhau’r gwasanaeth “tra rydych yn dal i allu gwneud hynny.”