Mae cyrff dau o bobl o Brydain wedi cael eu darganfod ar draeth ar ynys boblogaidd yn ne Gwlad Thai.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod cyrff y dyn a’r ddynes wedi cael eu darganfod yn noeth ar draeth creigiog ar ynys Koh Tao sy’n adnabyddus am safleoedd deifio a thraethau prydferth.

Roedd y ddau wedi cael anafiadau difrifol i’w pennau.

Cafwyd hyd i ddillad y ddau a hof gyda gwaed arno gerllaw. Mae’r heddlu’n credu bod yr hof wedi cael ei ddefnyddio i ladd y cwpl.

Dywed yr heddlu bod y ddynes yn 23 oed ac yn dod o Great Yarmouth yn Norfolk a bod y dyn yn 24 oed ac yn dod o Jersey.

Mae’r heddlu’n edrych ar luniau camerâu diogelwch o fwytai, gwestai a siopau er mwyn ceisio darganfod beth ddigwyddodd i’r pâr, meddai’r llefarydd.