Atomfa Wylfa yn Ynys Mon
Mae cwmni Pŵer Niwclear Horizon wedi cyhoeddi heddiw sut y gall pobl ddweud eu dweud am gynlluniau i adeiladu atomfa newydd ar Ynys Môn.

Bydd cam cyntaf yr ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 29 Medi a bydd yn para am 10 wythnos.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, bydd cyfle i bobl weld y cynlluniau ar gyfer atomfa Wylfa Newydd am y tro cyntaf yn ogystal â rhoi eu barn am y cynlluniau drafft.

Bydd pobl yn gallu gweld yr holl gynlluniau a gwybodaeth ar-lein, mewn cyfres o arddangosfeydd cyhoeddus ac mewn llyfrgelloedd ar draws Ynys Môn.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael am yr ymgynghoriad o29 Medi ymlaen drwy fynd at www.horizonnuclearpower.com/ymgynghoriad.

Dywedodd Alan Raymant, prif swyddog gweithredu Horizon: “Mae hi’n hanfodol bod pobl yn cael y cyfle i roi eu barn am ein cynigion.

“Mae Wylfa Newydd yn fuddsoddiad mawr yn y rhanbarth ac mae’n dod ag ystod eang o fanteision, o’r economaidd i’r addysgol, felly rydyn ni eisiau annog pobl i roi eu hamser i gymryd rhan a deall beth mae’r prosiect yn ei olygu iddyn nhw, i’r ardal leol, ac i Gymru ac i’r DU yn gyffredinol.”

‘Cam cadarnhaol’

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Ieuan Williams, ei fod yn gobeithio y byddai’r cyhoedd yn manteisio ar y cyfle i gyfrannu i’r ymgynghoriad.

“Mae hwn yn gam cadarnhaol arall ymlaen wrth wireddu’r cynllun o greu gorsaf niwclear newydd ar yr Ynys a’r buddsoddiad a chyfleoedd cyflogaeth enfawr fyddai’n dod i’r rhanbarth yn ei sgil,” meddai Ieuan Williams.

“Mae prosiect ‘Wylfa Newydd’ yn codi momentwm ac mae’r Datganiad o Ymgynghori Cymunedol hefyd yn amlygu’n glir ymrwymiad Horizon tuag at ymgynghori, sydd i’w groesawu’n fawr.

“Bydd  Cyngor Sir Ynys Môn yn paratoi ei ymateb ei hun i’r ymgynghoriad cyntaf yma, ond byddaf hefyd yn annog trigolion Môn, a phobl sy’n byw ar hyd a lled Gogledd Cymru, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a lleisio eu barn ar y cynigion yn ymwneud â’r Wylfa Newydd.”