Bydd aelodau undeb UNSAIN yn lobio’r Senedd yng Nghaerdydd heddiw wrth i Aelodau’r Cynulliad ddychwelyd o’u gwyliau haf.

Bydd staff llywodraeth leol a gweithwyr cymorth ysgolion o bob cwr o Gymru’n lobio’r Aelodau dros gyflogau ac i alw am ariannu cynghorau’n decach.

Meddai UNSAIN fod gweithwyr llywodraeth leol wedi gweld toriad o 18%, mewn termau real, yn eu cyflogau ers 2010 a bod y cynnig presennol o 1% o godiad cyflog ddim yn ddigon.

Mae’r undeb hefyd yn rhybuddio y gallai hyd at £200 miliwn arall gael ei dorri o gyllidebau cynghorau yng Nghymru.

Mae UNSAIN eisiau i Aelodau’r Cynulliad ymuno â’u hymgyrch sy’n galw am gyflogau teg, ac i weithio gyda’i gilydd i sicrhau cyllid tecach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Meddai Dominic Macaskill, pennaeth llywodraeth leol UNSAIN Cymru: “Mae gweithwyr llywodraeth leol ac ysgolion wedi bod yn dwyn baich yr adferiad economaidd.

“Mae gwleidyddion o bob ochr yn dadlau y dylai pawb elwa ar yr adferiad ond yn lle hynny, mae mwy a mwy yn cael trafferth i ddal dau ben llinyn ynghyd, yn profi tlodi mewn gwaith, ac yn cael eu gorfodi i fynd am fenthyciadau diwrnod cyflog ac ymweld â banciau bwyd.

“Rydym yn galw ar Aelodau’r Cynulliad i ymuno â ni ac ymgyrchu dros degwch ar gyfer ein gweithwyr, ar gyfer ein gwasanaethau, ac i Gymru.”