Ashya King
Fe fydd Ashya King, 5 oed, yn dechrau triniaeth arbenigol heddiw ar gyfer canser yr ymennydd yn y Weriniaeth Siec.
Cafodd ei rieni Brett a Nagmeh King eu harestio ar ôl iddyn nhw fynd a’u mab o Ysbyty Cyffredinol Southampton, heb ganiatâd meddygon, er mwyn iddo gael triniaeth arbenigol dramor.
Nid yw’r driniaeth – “proton therapy” – ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd yn y DU.
Mae Ashya King yn cael gofal mewn canolfan sy’n arbenigo yn y driniaeth ym Mhrag.