David Cameron
Gyda dim ond tri diwrnod o ymgyrchu ar ôl, bydd David Cameron yn teithio i’r Alban eto heddiw er mwyn erfyn ar yr Albanwyr i bleidleisio Na yn y refferendwm ar annibyniaeth a chadw’r DU yn un.
Bydd y Prif Weinidog, a ymgyrchodd yng Nghaeredin yr wythnos diwethaf, yn ôl yn yr Alban heddiw cyn i drigolion y wlad bleidleisio ddydd Iau.
Mae disgwyl i arweinwyr y ddwy ochr ddwysáu eu hymdrechion mewn ymgais i ennill pleidleiswyr sydd dal heb benderfynu.
Bydd Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond yn cyfarfod arweinwyr busnes – gan gynnwys Brian Souter o gwmni bysus Stagecoach a chyn brif weithredwr y siop fetio William Hill, Ralph Topping – er mwyn tynnu sylw at y cyfleoedd economaidd y gallai annibyniaeth ddod yn ei sgil.
Mae’n dilyn rhybuddion gan benaethiaid busnes yr wythnos diwethaf oedd yn awgrymu y gallai prisiau godi mewn Alban annibynnol, tra bod Deutsch Bank wedi cymharu pleidlais am annibyniaeth i’r camgymeriadau arweiniodd at Ddirwasgiad Mawr y 1930au.
‘Cyfle unwaith mewn oes’
Gydag arolygon barn yn parhau i awgrymu bod y frwydr rhwng y ddwy ochr yn agos iawn, mae Alex Salmond wedi dweud y gallai’r refferendwm ddydd Iau fod yn “gyfle unwaith mewn oes” i bobl yn yr Alban.
Roedd tri arolwg barn a gyhoeddwyd ddoe yn rhoi’r ymgyrch Na ar y blaen – gydag arolwg gan Panelbase yn eu rhoi nhw ychydig dros un pwynt ar y blaen. Roedd yr arolwg barn, a gafodd ei wneud ar ran The Sunday Times, yn rhoi’r ymgyrch Na ar 50.6%, a’r ymgyrch Ie ar 49.4%.
Roedd arolwg barn arall gan ICM yn rhoi’r ymgrych o blaid annibyniaeth wyth pwynt ar y blaen – ond roedd y sampl o bobl a ddefnyddiwyd ar gyfer yr arolwg hwnnw yn llai na’r sampl ar gyfer arolygon arferol.
Dywedodd Alex Salmond ddoe fod yr ymgyrch Ie yn anelu at ennill “mwyafrif sylweddol” yn y refferendwm ddydd Iau.
Bydd ei ddirprwy, Nicola Sturgeon, hefyd yn ymgyrchu’r bore yma gyda’r cyn AS Llafur Dennis Canavan – sydd bellach yn gadeirydd yr ymgyrch Ie – a chyn Arglwydd Faer Llafur Glasgow, Alex Mosson.