Fe fydd Phones 4u yn cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr gan fygwth mwy na 5,500 o swyddi.

Mae’n dilyn penderfyniad y cwmni EE i beidio ag adnewyddu ei gytundeb presennol, sydd yn dod i ben ym mis Medi’r flwyddyn nesaf.

Dywed y cwmni fod y penderfyniad wedi bod yn “sioc” ac mae’n golygu na fydd gan Phones 4u bartner rhwydwaith ar ôl i Vodafone hefyd gyhoeddi yn gynharach yn y mis na fyddai’n ymestyn ei gytundeb.

Dywedodd Phones 4u y bydd ei siopau ynghau heddiw wrth iddyn nhw aros i glywed gan y gweinyddwyr a fydden nhw’n cael parhau i fasnachu.