Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond
Fe fydd yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond yn teithio i Baris heddiw ar gyfer cynhadledd i drafod y camau nesaf i ymateb i eithafwyr Islamic State (IS).
Mae llofruddiaeth y gweithiwr dyngarol o Brydain, David Haines, a’r bygythiad i ladd ail wystl, wedi cynyddu’r pwysau ar y glymblaid ryngwladol i gynnal ymosodiadau ar IS.
Cafodd fideo ei chyhoeddi gan IS ddydd Sadwrn yn dangos David Haines yn cael ei ddienyddio gan eithafwr gydag acen Saesneg. Mae’n debyg mai’r un rhai oedd yn gyfrifol am lofruddio dau newyddiadurwr Americanaidd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae ’na fygythiad hefyd i ladd Prydeiniwr arall, y gyrrwr tacsi Alan Henning, a gafodd ei gipio yn Syria pan oedd yn cludo nwyddau dyngarol mewn confoi.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi rhoi addewid i ddod o hyd i’r rhai oedd yn gyfrifol am ladd David Haines.
Ond er ei fod wedi dweud bod Prydain yn barod i “wneud beth bynnag sydd yn angenrheidiol” fel rhan o ymgyrch ryngwladol yn erbyn IS, gan gynnwys parhau i roi arfau i luoedd Cwrdaidd a rhoi cymorth dyngarol, nid yw David Cameron wedi rhoi ymrwymiad i gynnal ymosodiadau o’r awyr.
Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau John Kerry yn rhoi pwysau ar y cynghreiriaid – yn enwedig y Dwyrain Canol a thaleithiau’r Gwlff – i ddangos eu bod yn unedig, ac mae’n hyderus o sicrhau ymrwymiad i anfon milwyr yno, rhywbeth sydd wedi cael ei ddiystyru gan y DU.
Ond mae ’na bwysau cynyddol ar Brydain i ymuno mewn ymosodiadau ar IS yn Syria ac Irac.