Llun Iestyn Hughes o ‘Gantre’r Gwaelod’ ym Mae Ceredigion sydd wedi cipio tlws Llun y Flwyddyn yng Ngŵyl Golwg eleni.
Fe ddaeth llun y ffotograffydd o’r goedwig hynafol yn ymddangos o’r môr rhwng Borth ac Ynyslas ar ôl y stormydd i’r brig mewn pôl piniwn arbennig, gyda 32% o’r bleidlais.
Yn ôl y chwedl mae’r boncyffion yn rhan o weddillion Cantre’r Gwaelod, tiriogaeth gafodd ei foddi oherwydd esgeulustod gŵr o’r enw Seithenyn oedd yn gyfrifol am y giatiau oedd yn atal y môr rhag llifo mewn.
Portread Gerallt Lloyd Owen gan Peter Telfer ddaeth yn ail yn y bleidlais gyda 20%, a llun Marian Delyth o orymdaith i achub neuadd breswyl Pantycelyn oedd yn drydydd â 18%.
Gallwch weld yr 11 llun oedd ar y rhestr hir drwy ddilyn y linc canlynol: gwylgolwg.com/pleidlais.