Mae tua mil o bobl wedi bod yn protestio y tu allan i bencadlys y BBC yn yr Alban.
Roedd y protestwyr yn cyhuddo’r BBC o ddangos rhagfarn yn erbyn annibyniaeth i’r Alban yn ymgyrch y refferendwm.
Fe fuon nhw’n gorymdeithio o ganol dinas Glasgow at swyddfeydd pencadlys y gorfforaeth yn Pacific Quay.
“Mae ymdriniaeth y BBC o’r ymgyrch wedi bod yn gwbl unochrog,” meddai un o’r protestwyr. “Dydi’r ymgyrch Ie ddim wedi cael sylw teilwng, a dyw hynny’n ddim digon da mwyach.”
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC eu bod nhw’n credu bod y sylw y maen nhw wedi’i roi i’r refferendwm yn gwbl ddiduedd ac yn unol â’u canllawiau.