Mae bachgen 15 oed o Iwerddon a fu ar goll ers prynhawn ddoe wedi cael ei ddarganfod yn fyw ac yn iach yn swydd Sligo.

Ar y cychwyn, roedd yr heddlu’n amau fod Sait Canbullu wedi cael ei herwgpio gan ddau ddyn yn Wexford 178 milltir i ffwrdd.

Fodd bynnag, ar ôl ymchwiliadau pellach, daeth yr heddlu i’r casgliad nad oedd y bachgen wedi cael ei herwgpio na’i orfodi i gar y ddau ddyn yn erbyn ei ewyllys.

“Hoffem ddiolch i’r cyfryngau a’r cyhoedd am eu help,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.